Pa gymorth sydd ar gael?

Mae grantiau o £1,000 hyd at £10,000 ar gael, wedi'u seilio ar hyd at 40% o gostau cymwys y prosiect.
Gallai prosiectau cyfalaf cymwys gynnwys:
- Cyfarpar cyfalaf
- Offer TGCh
- Datblygu gwefannau
- Deunyddiau marchnata
- Gwaith a newidiadau allanol neu fewnol ar adeiladau
Nid yw gwariant a dynnir cyn i'r grant gael ei gymeradwyo yn gymwys i'w gyllido.