Astudiaethau Achos 

Cyllid yn gymorth i gwmni gael technoleg newydd

Mae cwmni TSW Training, sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ddarparwr hyfforddiant profiadol sydd wedi ennill ei blwyf ers dros 45 mlynedd. Mae’r cwmni wedi profi twf ardderchog yn y deunaw mis diwethaf, gan ehangu i gyflogi 55 o staff ar draws tri safle, sydd ddwywaith gymaint ag ar ddiwedd 2009.

Yn gynharach eleni, cafodd gymorth gan yr Uned Datblygu Economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ffurf grant gan y Gronfa Fuddsoddi Leol i roi cymorth iddo gyda’i gynlluniau i ehangu ac i osod system TG a theleffon o’r radd flaenaf.

Meddai Matthew Channell, Rheolwr Masnachol yn TSW Training: “Mae ehangiad parhaus ein cwmni’n amser cyffrous iawn i TSW, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Gyda chymorth y Gronfa Fuddsoddi Leol gallasom osod isadeiledd cyfathrebu fydd yn ategu ehangiad y cwmni ar draws sawl safle. Rydym yn ddiolchgar iawn i Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am roi cyngor a chymorth heb eu hail.”  

Niko yn cynnig dyfodol disglair i gwmni o Ben-y-bont

Mae Moss Technical Services wedi ennill contract neilltuedig gyda Niko UK Limited i ddod yn is-ddosbarthwyr a darparu hyfforddiant gosod ledled Cymru.

Ar ôl cael contract y mae disgwyl i’w werth fod yn uwch na £450,000 dros y tair blynedd nesaf, mae’r busnes contractio systemau trydanol a diogelwch wedi sicrhau benthyciad o £30,000 gan UK Steel Enterprise a grant o £9,000 trwy’r Gronfa Fuddsoddi Leol a weinyddir gan yr Uned Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu cyfleusterau hyfforddi gwell.

Cafodd Niko UK ei ffurfio’n ddiweddar fel is-gwmni i’r darparwr datrysiadau awtomeiddio a goleuo ar gyfer y cartref o Wlad Belg. Mae’r ystod o 6000 o gynhyrchion, a weithgynhyrchir yng Ngwlad Belg, yn cynnwys goleuadau a reolir yn awtomatig sy’n galluogi defnyddwyr i ostwng eu costau a’u hôl troed carbon gan fod goleuadau’n cael eu diffodd yn awtomatig pan nad oes mo’u hangen. Bydd Moss Technical Services yn darparu cyrsiau ar gyfer gosodwyr a thrydanwyr yng Nghymru er mwyn iddynt allu dysgu sut i ddylunio, gosod a rhaglennu systemau awtomeiddio a goleuo Niko.

Meddai Andy Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Moss Technical Services: “Mae ennill y contract yn newyddion gwych i’n busnes ac yn dod wrth i ni gyrraedd diwedd ein blwyddyn orau hyd yma. Gyda chymorth yr Uned Datblygu Economaidd, Graham Paul Chartered Accountants a chyllid gan UK Steel Enterprise, rydym wedi datblygu ystafell hyfforddi sydd â chyfleuster cyflawn i roi profiad uniongyrchol o raglennu a gosod systemau Niko.”

Cyllid yn hwb i weithgynhyrchwr celfi cain

Mae Che Lavora, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl, yn fusnes teuluol sy’n arbenigo mewn creu celfi a saernïwyd â llaw ar archeb. Derbyniodd y cwmni, a sefydlwyd 12 mis yn ôl gan ŵr a raddiodd mewn dylunio cynhyrchion, Wil Jones, gymorth trwy’r Gronfa Fuddsoddi Leol er mwyn prynu offer hanfodol ar gyfer gweithdy yr oedd newydd ei sefydlu.  Llwyddodd y cwmni hefyd i sicrhau cyllid ar gyfer datblygu gwefan newydd er mwyn hyrwyddo’i gelfi unigryw-eu-dyluniad ymhellach.

Ynglŷn â’r cyllid, meddai Wil Jones: “Mae’r cymorth ychwanegol wedi fy ngalluogi i brynu peirianwaith o safon uwch sydd yn ei dro’n arwain at gynnyrch terfynol o ansawdd uchel; sy’n hollbwysig i’r farchnad darged. Roedd y broses ymgeisio’n eithriadol o syml ac unwaith y cawsom gymeradwyaeth ar gyfer y cyllid daeth yr arian drwodd yn gyflym iawn. Mae’r cymorth hwn yn amhrisiadwy o ran rhoi cymorth i fusnesau newydd, megis ein busnes ni, i gael eu traed danynt yn llawer cyflymach.”

Cyllid yn rhoi menter busnes newydd ar ben ffordd

Sefydlwyd Two Wheel Engineering Services ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ym mis Ionawr 2010 gan Dene John. Mae’r cwmni’n rhoi cymorth peirianneg a datblygu i dimau rasio chwaraeon modur cenedlaethol a’r fasnach beiciau modur.

Meddai’r perchennog, Dene John: “Fe wnes i ganfod bwlch yn y farchnad ar gyfer gwella perfformiad beiciau modur. Fe sefydlais Two Wheel Engineering Services yn gynharach eleni gyda chydweithiwr, Jason Leyshon, a chyda’n gilydd rydym wedi datblygu system ar gyfer profi beiciau modur yn electronig nad oes mo’i thebyg gan unrhyw un arall ar hyn o bryd, ond mae gan dimau rasio ddiddordeb mawr iawn ynddi.

“Fe gysyllton ni â’r Uned Datblygu Economaidd er mwyn gwneud cais am gyllid i brynu dynamomedr injans – heol dreigl ar gyfer profi beiciau modur sydd o gymorth i ddatblygu gostyngiad yn yr amser a gymer i newid gêr a rhoi mantais gystadleuol a fawr chwenychir i dimau rasio. Mae’r dynamomedr yn ein galluogi i brofi a datblygu’r system a’i theilwra i fodelau penodol.

“Bu’r tîm yn yr Uned Datblygu Economaidd yn gefnogol iawn ac fe roddodd gymorth i ni gyda’r broses ymgeisio bob cam o’r ffordd. Mae’r cyllid wedi ein galluogi i ddatblygu ein syniad busnes a’i droi’n fenter busnes gyffrous.”

The Butchers Arms
Mae cyllid wedi ei ddarparu ar hyn o bryd i gefnogi’r Butchers Arms ym Mhontsticill, ger Merthyr Tudful, i ddatblygu cyfleuster tŷ bynciau yn yr eiddo. Bydd y datblygiad hwn yn canolbwyntio ar lety o ansawdd ond fforddiadwy i ymwelwyr sy’n archwilio’r ardal a’r rhanbarthau cyfagos. Mae llety byr dymor o’r fath yn rhan sylweddol o’r sector twristiaeth yn y Cymoedd ac yng Nghymru yn gyffredinol. Mae buddsoddiad fel hyn yn y stoc llety yn ychwanegu gwerth pellach i sector twristiaeth sydd eisoes yn elwa o dirweddau lleol sy’n denu ymwelwyr sy’n awyddus i seiclo, pysgota, chwarae golff a chymryd teithiau cerdded gyda thywysydd yn y fwrdeistref sirol.
 
Tribotics Ltd
Mae Tribotics Ltd yn dylunio a chynhyrchu systemau rheoli a phaneli rheoli trydanol i ddiwydiant ac yn cyflenwi marchnadoedd lleol a chenedlaethol. Mae gan y busnes brofiad helaeth o gynhyrchu systemau rheoli, gyda’r holl waith dylunio a datblygu meddalwedd yn cael ei gyflawni’n fewnol i greu datrysiadau unigol. Darparwyd cyllid i brynu offer cyfalaf, sydd wedi galluogi’r cwmni i ddatblygu proses gynhyrchu effeithlon a chost effeithiol ar gyfer paneli rheoli penodol. 

AJ Print

Mae AJ Print wedi bod yn masnachu ym mwrdeistref Merthyr Tudful ers 12 mlynedd, yn darparu a chynhyrchu arwyddion a deunydd cyffredinol argraffedig.

Wedi cais llwyddiannus am gyllid trwy Gronfa Fuddsoddi Leol De Ddwyrain Cymru gyda Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, gallodd y cwmni brynu peiriant argraffu hanfodol gan greu chwech o swyddi.

Aspect Business Mobiles LTD

Sefydlwyd Aspect Business Mobiles LTD yn 2009 i ddarparu cytundebau ffonau symudol a llinellau sefydlog i BBaCh a chyngor telathrebu ledled De Cymru a De Orllewin Lloegr.

O ganlyniad i ymlediad, fe ail-leolodd y busnes i Ganolfan Fusnes Orbital ym Merthyr Tudful yn Hydref 2010.  

Wedi cais llwyddiannus am gyllid trwy Gronfa Fuddsoddi Leol De Ddwyrain Cymru gyda Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, fe alluogodd y cyllid i’r cwmni brynu offer TG a chefnogaeth marchnata hanfodol, gan greu 4 swydd llawn amser.