About LIF Cymru


Pecyn o gymorth ariannol hyblyg yw’r Gronfa Fuddsoddi Leol (CFL). Bydd yn cefnogi busnesau newydd a rhai sydd wedi sefydlu’n barod trwy gynnig cyllid o 40% o brosiectau cymwys, gydag isafswm grant o £1,000 ac uchafswm o £10,000.
Targedir mentrau bach neu ganolig eu maint (yn cyflogi hyd at 250 o bobl), gyda naill ai drosiad llai na €50 miliwn, neu fantolen lai na €43 miliwn, ac yn gweithio’n ardal awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.
Sefydlwyd y Gronfa i ddatblygu’r economi leol trwy hybu gweithgaredd busnes. I haeddu ystyriaeth, dylai cynllun gyrraedd un neu fwy o’r targedau hyn:
● Creu swyddi
● Cynnal swyddi
● Cynyddu trosiant
● Hybu twf busnes
● Cynyddu’r awch gystadleuol
● Sicrhau arbedion effeithlonrwydd
● Hybu buddsoddi a thwf pellach
● Cyflwyno cynnyrch, gwasanaethau neu farchnadoedd newydd
● Cefnogi sector allweddol (Ynni Glan/Adnewyddol, Rheolaeth Amgylcheddol, Telegyfathrebu, Technoleg Cyfathrebu a Gwybodaeth, Gwasanaethau a Chynnyrch Ariannol a Phroffesiynol, Diwydiannau Creadigol, Cerbydau, Awyrofod, Adeiladu, Bwyd, Amddiffyn, Adwerthu, Hamdden a Thwristiaeth).
● Creu a datblygu Menter Gymdeithasol.
Gan mai Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd (Cydgyfeiriant), sydd yn rhannol ariannu’r grant, bydd raid i fusnesau fod yn gymwys i dderbyn arian o dan y cynllun hwn.
Y mae rhai sectorau a gweithgareddau nad ydynt yn gymwys i dderbyn arian y Gymuned Ewropeaidd. Ymysg y rhain y mae:-
● Glo a Dur
● Adeiladu Llongau
● Cynhyrchu ffibrau synthetig
● Gweithgareddau sydd yng nghylch gwaith Rhaglenni eraill y GE, er enghraifft, Datblygu Gwledig, Pysgodfeydd Ewrop
● Banciau
● Cwmnïau Yswiriant
● Tai
● Addysg statudol
● Gwasanaethau Iechyd
● Pysgodfeydd / acwafeithrin / amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd Atodiad 1, amnewidion llaeth / gweithgareddau perthynol i allforio.