Sut gallaf Ymgeisio? 

pencilscomputer

Cam 1 – Datgan Diddordeb

Fel cam cyntaf, dylai pawb sydd â diddordeb gwblhau ffurflen Datgan Diddordeb; gellir cael hon gan eich Cynghorwr Busnes, eich awdurdod lleol (naill ai oddi ar y we neu’r Swyddog Prosiect), neu Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cymorth Hyblyg i Fusnes. Y mae manylion am y rhain ar ddiwedd y ddogfen hon.

Dylai pob darpar ymgeisydd fod yn derbyn cyngor busnes, a rhaid dangos tystiolaeth o hyn gyda’r cais. Os nad ydych yn derbyn cyngor busnes ar hyn o bryd, dylech gysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymorth Hyblyg i Fusnes yn eich swyddfa ranbarthol neu ar 03000 6 03000 am gyngor a chymorth i gwblhau eich cais am grant, neu am wybodaeth a chefnogaeth busnes ychwanegol.

Bydd y ffurflen Datgan Diddordeb (DD), yn rhoi manylion cryno am eich busnes, ynghyd â golwg o’ch cynllun arfaethedig, anghenion grant ac unrhyw gymorth ariannol gan y sector gyhoeddus dros y tair mlynedd ddiwethaf.

Bydd y wybodaeth ar y ffurflen DD yn galluogi Swyddog Prosiect y Gronfa Fuddsoddi Leol i benderfynu ar gymhwyster y busnes a’r cynllun. Os byddwch yn llwyddiannus, cewch wybod mewn llythyr, gyda gwahoddiad i wneud cais ffurfiol. 

Cam 2 – Ffurflen Gais

Y mae’n bwysig sicrhau eich bod wedi cwblhau’r ffurflen gais i gyd, ac wedi cynnwys pob dogfen sydd yn cefnogi’r cais gyda’r ffurflen. Ymysg y rhain bydd Cynllun Busnes cyfredol, manylebion, costau a darluniau yn cyfeirio at eich cynllun (os yn berthnasol), amcanbrisiau a dyfyn brisiau am y costau – tri am bob eitem (isafswm cost eitem £100 fel rhan o’r cais), a thystiolaeth o ffynonellau cyllid fel ariannu cyfatebol i’r cais am grant. Bydd methu gwneud hyn i gyd yn arwain at ohirio’r penderfyniad. Dylech nodi nad yw graddfa amser cytuno’r grant yn cychwyn hyd nes y bydd pob dogfen angenrheidiol yn nwylo’r Awdurdod Lleol.

Er mwyn sicrhau grant rhaid i’r ymgeisydd brofi’n ddiamwys na fydd y prosiect yn bosibl i’r raddfa a ragwelir nac mewn graddfa amser resymol heb gymorth ariannol gan y cynllun. Gall y Cyngor dynnu’r cynnig am grant yn ôl os na fydd y prosiect yn rhedeg yn ôl yr hyn a amlinellwyd yn y cais neu os oes oedi annerbyniol.

Rydym yn eich atgoffa na ddylech ddechrau gwario ar eich prosiect hyd nes y bydd penderfyniad ffurfiol wedi ei wneud ac y byddwch wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig.

Darllenwch yr holl wybodaeth a chanllawiau a gewch yn ofalus, yn arbennig pob agwedd ar y ffurflen gais a nodiadau’n cyfeirio at ddyfarnu grant. Yn benodol, dylech nodi:-

 ● na thelir grant am wariant a wnaethpwyd cyn y dyfarniad
 ● na thelir grant am bryniant arian parod.

Beth sy’n digwydd nesaf? - Prosesu eich cais

Ar ôl derbyn eich cais yn llawn, bydd y Cyngor yn:-

●  Gwirio fod y manylion a roddir mewn trefn; os nad ydynt, bydd yn eich hysbysu chwi neu eich cynghorydd pa beth ychwanegol sydd ei angen.
●   Ymgynghori, a all gynnwys
o Tystlythyr banc
o Holi am eich busnes gydag  asiantaeth gofal credyd. Bydd yr asiantaeth yn cadw cofnod o’r ymholiad hwnnw ac efallai yn rhoddi’r wybodaeth asiantaethau eraill.
o Holi asiantaeth gofal credyd am gyfarwyddwr neu gyfarwyddwyr y cwmni.
●  Anfon y cais ymlaen i Banel Grantiau i benderfynu. Ystyrir pob cais yn unigol yn ôl ei deilyngdod ac yn ôl nodau ac amcanion y prosiect.

Rhoi gwybod ichwi am y penderfyniad

Rhoddir gwybod ichwi mewn llythyr am y penderfyniad. Os byddwch yn llwyddiannus, nodir swm y grant a gynigir ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig. Yn gynwysedig gyda’r llythyr bydd y cytundeb “Telerau ac Amodau” y bydd rhaid ichwi eu dilyn. Rhaid ichwi lofnodi’r llythyr a’i anfon yn ôl o fewn 28 niwrnod, fel arwydd eich bod yn derbyn y cynnig grant.

Gwneud cais am Arian

Rhaid dangos tystiolaeth o bob gwariant cyn derbyn y grant. Rhaid i’r dystiolaeth gynnwys pob cyfrif neu anfoneb a thalebau (ni ddylai taleb gael dyddiad arni sydd cyn dyddiad y llythyr derbyn y cynnig). Hefyd, bydd angen copïau o gyfriflenni banc yn dangos taliadau allan o gyfrif y cwmni: os mai talu â cherdyn credyd, neu debyg, a wnaethpwyd, rhaid ichwi ddangos eich bod wedi talu’r cwmni cerdyn yn llawn. Ni dderbynnir taliadau arian parod fel rhan o’r cais.

Bydd y Cyngor yn sicrhau fod y gweithgaredd y dyfarnwyd grant amdano (gwaith neu bryniannau  a wnaethpwyd) wedi ei gwblhau’n unol â’r cynnig a wnaed yn y cais, ac yn unol ag unrhyw amodau ynghlwm yn y penderfyniad cynnig. Gall hyn fod gydag archwiliad neu unrhyw ddull arall yn ôl doethineb y Cyngor.

Wedi cwblhau hyn i gyd, bydd y Cyngor yn talu ichwi trwy gyfrwng BACS.